Coronafeirws: tai

Cyhoeddwyd 20/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 1 Medi 2020

Mae'r blog hwn yn nodi'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gefnogi pobl sy'n wynebu problemau tai yn sgil y coronafeirws.

I lawer, bydd problemau tai yn deillio o golli incwm neu leihad mewn incwm. Rydym hefyd wedi cyhoeddi blogiau ar effaith y coronafeirws ar gyflogaeth a budd-daliadau ac mae’n bosibl y byddant yn ddefnyddiol i chi.

Rydym hefyd yn rhestru amrywiaeth o ffynonellau cyngor dibynadwy ar faterion tai ar ddiwedd y blog hwn.

Digartrefedd

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol er mwyn i awdurdodau lleol allu helpu'r rhai sy'n wynebu digartrefedd yn sgil y coronafeirws.

Mae pobl sy'n cysgu ar y stryd a phobl mewn llety dros dro yn wynebu heriau penodol o ran cydymffurfio â'r rheolau ar y gadw pellter cymdeithasol a hunanynysu. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol fel y gallai helpu’r grŵp hwn o bobl sy’n agored i niwed. Defnyddiwyd y cyllid i sicrhau'r llety sydd ei angen fel y gellir amddiffyn pobl heb gartref a’u cefnogi a'u hynysu os oes angen. Ledled Cymru, mae awdurdodau lleol a'u partneriaid wedi gallu defnyddio'r cyllid ychwanegol i ddarparu llety ar gyfer cannoedd o bobl a fyddai fel arall yn ddigartref.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gam dau o'r ymateb i ddigartrefedd yn ystod argyfwng y coronafeirws ar 28 Mai ynghyd â £20 miliwn yn ychwanegol o gyllid. Ar 28 Gorffennaf cafodd y cyllid hwnnw ei gynyddu i £50 miliwn. Gofynnwyd i bob awdurdod lleol yng Nghymru weithio gyda'u partneriaid i baratoi cynllun sy'n nodi sut y byddant yn defnyddio'r cyllid hwn i weithio tuag at nod Llywodraeth Cymru o roi terfyn ar ddigartrefedd.

Cynhaliodd y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd ei gyfarfod olaf yn ddiweddar. Sefydlwyd y grŵp, a gadeirir gan Jon Sparkes, prif weithredwr Crisis, gan Lywodraeth Cymru cyn y pandemig i gynghori ar ffyrdd o atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd. Yn dilyn cyfarfod olaf y grŵp, ysgrifennodd ei aelodau blog sy'n trafod ei waith yng nghyd-destun pandemig y coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ystod o ganllawiau ynghylch digartrefedd sy’n ymwneud â chyfnod y coronafeirws, gan gynnwys adnodd ar gyfer ymarferwyr a phartneriaid awdurdodau lleol..

Mae ein blog, Coronafeirws: digartrefedd, yn edrych yn fanylach ar sut aeth Cymru i’r afael â digartrefedd yn ystod y pandemig.

Cymorth i’r rhai sy’n rhentu

Er y cynigiodd landlordiaid cymdeithasol sicrwydd cefnogaeth yn gyflym i'w tenantiaid, roedd effaith y coronafeirws ar y rhai sy'n byw yn y sector rhentu preifat yn llai eglur. Ers hynny, mae nifer o newidiadau i ddeddfwriaeth a chanllawiau wedi rhoi gwarchodaeth ychwanegol i’r rhai sy’n rhentu.

Ysgrifennodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at denantiaid tai cymdeithasol i'w hatgoffa bod pob landlord cymdeithasol yng Nghymru wedi cytuno y bydd pawb yn cael eu "trin yn deg" a’u bod wedi cytuno na fyddent yn troi allan eu tenantiaid sy’n profi caledi ariannol o ganlyniad i’r coronafeirws.

O 26 Mawrth 2020, gwnaeth Deddf y Coronafeirws 2020 gynyddu dros dro y cyfnod rhybudd y mae’n rhaid i landlord yng Nghymru neu Loegr ei roi i’r rhan fwyaf o denantiaid cyn y gall ofyn i Lys am orchymyn cymryd meddiant i dri mis. Cyn y newidiadau dros dro, roedd ystod o wahanol gyfnodau rhybudd yn gymwys gan ddibynnu ar y rheswm dros droi allan a'r math o denantiaeth. Er enghraifft, yn y sector rhentu preifat, byddai nifer o denantiaid wedi bod â hawl i gael pythefnos o rybudd pe bai ganddynt ôl-ddyledion rhent, neu ddau fis o rybudd os nad oeddent wedi torri amodau'r denantiaeth.

Nododd Llywodraeth Cymru y newidiadau diweddaraf i gyfnodau rhybudd ar gyfer achosion o droi allan mewn datganiad ysgrifenedig ar 23 Gorffennaf. O 24 Gorffennaf ymlaen, cynyddwyd y cyfnod rhybudd i chwe mis ar gyfer tenantiaethau sicr a thenantiaethau byrddaliad sicr yng Nghymru. Mae hynny'n cwmpasu'r mwyafrif o denantiaethau yn y sector rhentu preifat a chymdeithasau tai. Mae cyfnod rhybudd o dri mis yn parhau i fod yn gymwys i hawliadau meddiant sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal â thenantiaid sy’n wynebu cael eu troi allan o denantiaethau eraill a gwmpesir gan Ddeddf y Coronafeirws, gan gynnwys tenantiaethau cyngor.

Bydd y newidiadau dros dro hyn i gyfnodau rhybudd yn parhau i fod ar waith tan 30 Medi, ond mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i ymestyn y cyfnod hwnnw os bydd angen. Ar 3 Awst, trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn y Senedd y cyfnod rhybudd estynedig o chwe mis, a chododd bryderon ynghylch pa un a oedd yr estyniad yn ymyrraeth gyfiawn â hawliau dynol landlordiaid.

Ataliwyd prosesu hawliadau meddiant tai yn y llysoedd ar 27 Mawrth 2020. Roedd y llysoedd i fod i ddechrau prosesu hawliadau eto ar 24 Awst, ond mae'r ataliad, a oedd i bob pwrpas yn waharddiad ar droi allan, bellach wedi'i ymestyn hyd 20 Medi. Pan fydd achosion meddiant tai yn ailddechrau, mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd yr achosion mwyaf difrifol yn cael eu blaenoriaethu, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cam-drin domestig ac ôl-ddyledion rhent difrifol.

Ar 17 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyfarwyddyd ymarfer newydd sy’n nodi sut y bydd y llysoedd, a'r partïon sy'n hawlio, yn ymdrin â hawliadau meddiant gohiriedig a hawliadau meddiant newydd pan fydd achosion yn ailddechrau.

Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn bwriadu ymestyn y protocol cyn gweithredu presennol y mae'n rhaid i landlordiaid cymdeithasol ei ddilyn cyn cychwyn achos cymryd meddiant i’r sector rhentu preifat, ac ymestyn ei gylch gwaith.

Mae gan awdurdodau lleol a'r heddlu bwerau i ymyrryd os yw landlord yn gweithredu'n anghyfreithlon, er enghraifft, drwy geisio gorfodi tenant i adael heb gael gorchymyn cymryd meddiant yn gyntaf. Ar 20 Gorffennaf, dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wrth Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau‘r Senedd bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cwrdd â’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i drafod y ffordd y mae'r comisiynwyr yn cyfarwyddo eu heddluoedd ledled Cymru, o ran achosion o droi allan yn anghyfreithlon.

Nid yw'r newidiadau i'r cyfnodau rhybudd a’r atal troi allan dros dro yn golygu y gall tenantiaid roi'r gorau i dalu rhent. Mae Shelter Cymru yn amlinellu ar ei wefan rai o'r opsiynau y gall landlord a thenant eu hystyried lle bu gostyngiad mewn incwm tenant. Mae hyn yn cynnwys gwyliau talu rhent neu ostyngiad rhent dros dro. Rhaid i'r partïon drafod y trefniadau hyn rhyngddynt.

Mae'n bosibl y bydd tenantiaid sydd wedi dioddef gostyngiad yn eu hincwm yn gallu hawlio cymorth drwy'r system fudd-daliadau. Cyhoeddodd y Canghellor y bydd cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol (sef yr uchafswm cymorth y gall hawliwr budd-daliadau yn y sector preifat ei gael tuag at dalu'r rhent) yn cynyddu fel eu bod yn talu am o leiaf 30 y cant o renti'r farchnad. Gall awdurdodau lleol hefyd ddyfarnu taliad tai yn ôl disgresiwn i denantiaid tai cymdeithasol neu dai preifat.

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cynghori ar ddyledion a ddarperir drwy Gronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru. Nododd Llywodraeth Cymru fod tenantiaid y sector preifat yn un grŵp a allai elwa o'r gefnogaeth ychwanegol hon.

Ar 11 Awst, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth yn cael ei gyflwyno i helpu tenantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent wedi’u cronni ers 1 Mawrth. Telir benthyciadau yn uniongyrchol i landlordiaid.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ystod o ganllawiau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws ar gyfer tenantiaid yng Nghymru, gan gynnwys canllawiau ar dalu rhent, atgyweiriadau a chael eu troi allan.

Landlordiaid

Gall landlordiaid sydd â morgeisi Prynu i Osod y mae eu tenantiaid wedi colli incwm oherwydd effaith y coronafeirws ofyn am wyliau morgais. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac UK Finance, sy'n cynrychioli benthycwyr, yn nodi bod disgwyl i landlordiaid drosglwyddo'r rhyddhad hwn i'w tenantiaid er mwyn sicrhau y cânt eu cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar y coronafeirws i landlordiaid ac asiantau rheoli yn y sector rhentu preifat. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi amryw o ganllawiau penodol i landlordiaid cymdeithasol sy’n ymwneud â’r coronafeirws.

Perchnogion tai

Mae benthycwyr morgeisi wedi cytuno i helpu’r rhai sy'n ei chael yn anodd gwneud taliadau yn ystod yr achosion presennol o'r coronafeirws.

Cytunodd benthycwyr morgeisi i gynnig gohiriad o 3 mis ar gyfer ad-dalu morgais i fenthycwyr sy’n cael anhawster ariannol oherwydd y coronafeirws. Ar 22 Mai, cadarnhaodd Trysorlys EM y bydd perchnogion cartrefi sy’n ei chael yn anodd talu eu morgais oherwydd y coronafeirws yn gallu ymestyn y gohiriad ar gyfer ad-dalu eu morgais am 3 mis arall, neu ddechrau gwneud ad-daliadau llai. Mae'r atebion i rai cwestiynau cyffredin ar wefan Cyllid y DU. Mae benthycwyr morgeisi hefyd wedi cytuno i ymestyn y moratoriwm ar adfeddu anwirfoddol ar gyfer cwsmeriaid preswyl a chwsmeriaid prynu i osod i 31 Hydref 2020, yn unol â chanllawiau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Gall perchnogion tai sydd wedi prynu eiddo drwy gynllun Llywodraeth Cymru Cymorth i brynu – Cymru wneud cais am wyliau ad-dalu llog o hyd at dri mis os ydynt yn gwneud taliadau llog ar eu benthyciad ac y gallent ddioddef caledi ariannol o ganlyniad i'r coronafeirws.

Ar 14 Gorffennaf, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai band cyfradd sero’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynyddu o £180,000 i £250,000 ar 27 Gorffennaf mewn perthynas â thrafodion eiddo preswyl. Newid dros dro yw hwn, a bydd y cyfraddau a'r bandiau newydd yn gymwys tan 31 Mawrth 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor i bobl sy'n cael problemau talu eu morgais yn ystod pandemig y coronafeirws..

Symud tŷ

Cafodd gweddill y cyfyngiadau a oedd yn rhwystro’r farchnad dai rhag ailagor yn llwyr eu codi ar 27 Gorffennaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dwy set o ganllawiau ynghylch symud tŷ yn ystod y pandemig, un ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol ac un ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector.

Ffynonellau gwybodaeth, cyngor a chymorth


Erthygl gan Jonathan Baxter, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd